Nepal
Dinasyddiaeth Byd Eang
Cyswllt gydag Ysgol Jaleshwary,
Nepal.
Un elusen rydym wedi bod yn rhan
ohoni a chyd weithio gyda
phartneriaeth Y Cyngor Prydeinig
ydi ein cyswllt agos ag Ysgol
Jaleshwary yn Nepal. Ysgol sydd tua
3 awr allan o’r brifddinas yn
Kathmandu, mewn pentref bychan
Salang yn ardal Dhading. Mae Dilys
Ellis-Jones wedi bod yno ar sawl
achlysur ac maer disgyblion yma
wedi bod yn cefnogi y disgyblion
yno dros y blynyddoedd drwy yrru
llyfrau, cyfrifiaduron, llythyrau a
chardiau. Yn ystod gaeaf 2021 bu i
helpu i brynu dillad cynnes ar gyfer
plant Ysgol Kalidevi, Dhading.
Un fenter ddiddorol oedd
disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn
gwerthu eu comic roeddent wedi
greu a phrynu ieir i rai o ddisgyblion
Ysgol Jaleshwary.
Yn sicr mae Ysgol O.M.Edwards
wedi elwa yn fawr iawn o’r cyswllt
yma – gan fod y plant yn dysgu am
ddiwylliant a crefyddau gwahanol
sydd yn werthfawr a difyr iawn.
Cant adnabyddiaeth dda o bobl a
phlant eraill ar draws y byd sydd a
bywydau mor wahanol i ni yma.
Rydym ni wedi derbyn dillad,
nwyddau a masgiau i’r plant yma
gael eu defnyddio. Bu i’r ysgol helpu
yn ystod Daeargryn mawr Nepal, yn
Ebrill, 2015 pan darwyd y wlad yn
syfrdanol. Roedd y disgyblion yn
gallu gwylio’r newyddion yn
ddyddiol ac wedi penderfynu rhoi
cymorth mewn unrhyw ffordd
bosib. Bu i ni yrru dillad, bwyd a
llyfrau i blant yr ysgol.
Gyda datblygiad TGch mae wedi
bod yn llawer haws i ni fel ysgol
gysylltu gyda Mr Hari Tripathi sydd
yn rhan o Lywodraethwyr Ysgol
Jaleshwary i’w holi a trafod gyda fo
am wahanol destunau, yn ystod ein
dathliad Diwali/Dashain bob
blwyddyn.
Cysylltu efo Ni
Ysgol O.M. Edwards
Llanuwchllyn
Y Bala
Gwynedd
LL23 7UB
Ysgol O M Edwards © 2025
Website designed and maintained by H G Web Designs
Bore Coffi MacMillan
01678 540242
@YsgolOMEdwards