Diogelwch
Mae defnyddio cyfrifiaduron, mynd
ar y we a defnyddio teclynnau fel
iPads yn cynnig cyfleodd addysgu
gwych i blant. Mae'r rhyngrwyd yn
cynnig storfa bron yn ddi-ben-draw
o wybodaeth addysgol ddefnyddiol,
gellir hefyd defnyddio'r dechnoleg i
ymestyn gwaith creadigol y plant i
greu lluniau, fideos, a chreu
gwefannau eu hunain. Ac wrth gwrs
mae modd eu defnyddio er mwyn
adloniant - gwylio fideos, chwarae
gemau neu wrando ar
gerddoriaeth!
Rydym fel ysgol yn hyrwyddo
defnydd technoleg fel rhan
greiddiol o addysg y plant, ac mae'n
agwedd sy'n dod yn amlycach a
phwysicach o flwyddyn i flwyddyn.
Ond mae'r rhyngrwyd a thechnoleg
hefyd yn cynnwys peryglon i blant,
yn anffodus, ac felly mae'n hynod
bwysig ein bod fel ysgol a rheini neu
ofalwyr yn sicrhau bod ein plant yn
dysgu sut i ddefnyddio'r pethau hyn
yn ddiogel.
Mae PC John (un o 18 Swyddog
Cyswllt Ysgolion yr Heddlu) yn dod
i'r ysgol yn rheolaidd i drafod
gwahanol faterion â'r plant, ac
meddai fod e-Ddioglewch yn fater
hynod bwysig yn ein hysgolion, a
cham ddefnydd o'r dechnoleg yn
gallu creu problemau gwirioneddol.
Mae PC John hefyd wedi cynnal
noswaith yn trafod y peryglon gyda
rhieni, gan drafod materion yn
cynnwys:
1.
Bwlio ar lein
2.
Rhannu lluniau - (unwaith
iddynt fynd ar y we maent yno
am byth, a modd i unrhyw un
eu rhannu)
3.
Rhannu gwybodaeth/gormod o
wybodaeth e.e. oed, cyfeiriad,
lleoliad (location settings ar
ddyfais)
4.
Sgwrsio ar lein – (yn ystod
gemau, neu dros gyswllt fideo –
pwy sydd ar y pen arall 'go-
iawn')
5.
Cyfrineiriau (passwords) gwan.
(perygl hacio)
Mae'n fwriad gan yr ysgol i gynnal
sesiynau codi
ymwybyddiaeth/trafod ynghylch e-
Ddiogelwch yn rheolaidd, o leiaf
unwaith y flwyddyn, gan ei fod yn
fater holl bwysig.
Mae Llŷr Edwards (Tad Tomos,
Cadog, Guto a Brychan) yn
Llywodraethwr sydd â gofal dros
Amddiffyn Plant ac e-Ddiogelwch.
Os oes gennych bryderon ynghylch
eich plentyn â'i ddefnydd o'r wê neu
dechnoleg, neu os hoffech gyngor
ar y mater, gofynnwch iddo.
Nodir isod pwyntiau y dylai pob
rhiant fod yn ymwybodol ohonynt
•
Mae llawer o ddeunydd yn rhoi
cyngor i chi ar waelod y dudalen
hon
•
Mae angen i bob rhiant/ofalwr a
phlentyn lofnodi cytundeb e-
Ddiogelwch yr ysgol
•
Mae'r plant yn defnyddio'r we a
theclynnau technolegol yn yr
ysgol yn unol â pholisi e-
Ddiogelwch yr ysgol
•
Mae angen i rieni fod yn
ymwybodol o sut mae eu plant
yn defnyddio technoleg gartref,
a'u helpu i fod yn ddiogel
•
Mae Polisi e-Ddiogelwch yr ysgol
ar gael i chi ei weld yn yr ysgol
•
Os oes gennych bryderon
ynghylch e-Ddiogelwch
cysylltwch â'r Pennaeth neu Llŷr
Edwards
GWYBODAETH A DEUNYDD
DEFNYDDIOL
1.
Sut i osod gosodiadau ar y
'router' i atal deunydd
annymuno
BT -
https://youtu.be/exoIdZ1yLFw?li
st=UUSGURayonindsMn_EYXx8
Xg
SKY -
https://youtu.be/4adHW4e7Hx
Q
TalkTalk -
http://www.saferinternet.org.uk
/advice-and-resources/parents-
and-carers/parental-
controls/talktalk
Virgin Media -
http://www.saferinternet.org.uk
/advice-and-resources/parents-
and-carers/parental-
controls/virgin-media
2. Ap defnyddiol i helpu defnydd
synhwyrol o declynnau Android
ac Apple
Screentime -
https://screentimelabs.com/
3. Dogfennau defnyddiol
•
siarad yn ofalus ar-lein
•
cefnogi pobl ifanc ar-lein
•
secstio
•
Pwyllo cyn rhannu
•
Goroesi gwyliau'r haf
4. Gwefannau da
School Beat
SchoolBeat Bwlio Seibr
SchoolBeat - Ffonau Symudol
SchoolBeat - Diogelwch ar y we
THINK YOU KNOW
NSPCC
Child.net
Internet Matters
Safer Internet
5. FACEBOOK
Hoffwch dudalen NWP Cyber
Crime Team / Tîm Troseddau
Seiber Heddlu Gogledd Cymru ar
Facebook
•
Cofiwch na ddylai 'run o
ddisgyblion yr ysgol gael tudalen
Facebook, rhaid bod yn 13 cyn ei
ddefnyddio
Cysylltu efo Ni
Ysgol O.M. Edwards
Llanuwchllyn
Y Bala
Gwynedd
LL23 7UB
Ysgol O M Edwards © 2024
Website designed and maintained by H G Web Designs
01678 540242
@YsgolOMEdwards