Bydd Criw Eirys – Clwb Gofal Ar Ôl Ysgol Llanuwchllyn – yn gweithredu o Ionawr 7fed 2025 ar ôl ysgol yn Ysgol O. M. Edwards.Bydd Criw Eirys ar agor i unrhyw un o ddisgyblion oed cynradd gan gynnwys y dosbarth meithrin.Bydd Criw Eirys ar agor ddydd Llun i ddydd Iau, o 3:30-5:30pm. Bydd modd i chi archebu slot o awr neu ddwy awr i’ch plentyn.Bydd unrhyw blentyn sy’n mynychu’r Cylch Meithrin, ac sydd eisiau dod i Criw Eirys yn cael eu cludo am ddim o’r Neuadd Bentref i Ysgol O. M. Edwards am 3:00pm, ac yn derbyn gofal am ddim hyd nes y bydd Criw Eirys yn dechrau’n swyddogol am 3:30pm. (Mae’n rhaid i’r plentyn fod wedi ymrwymo i dderbyn gofal o 3:30pm i fanteisio ar y gwasanaeth yma.)Cost Clwb Eirys fydd £6 am awr / £10 am ddwy awr y plentyn.Dim ond lle i 16 o blant sydd yng Nghlwb Eirys ar hyn o bryd a byddwn yn gweithredu ar egwyddor y cyntaf i’r felin.Er mwyn cadw lle i’ch plentyn, gyrrwch ebost at Sioned Roberts: cylchmeithrinllanuwchllyn@hotmail.com yn nodi - Enw ac oedran eich plentyn- Pa ddiwrnodau a sawl awr y bydd eich plentyn yn defnyddio Criw Eirys.- Byddwn maes o law yn defnyddio ap ‘Parents Pay’ i dderbyn archebion.Pam Criw Eirys? Lady Eirys Edwards oedd gwraig Syr Ifan ab Owen Edwards ac fe’i galwyd hi’n ‘fam yr Urdd’. Mae’n dyled yn fawr iddi am sicrhau profiadau di-ri i filoedd o ieuenctid Cymru, ac mae’n braf gallu ei choffau yn enw’r clwb newydd hwn.