Mae Ysgol O.M.Edwards yn rhan o Gynllun Ysgol Iach Gwynedd. Rydym wedi derbyn deilen cam 5 yn 2018, ac yn gweithio ar y wobr ansawdd Cenedlaethol. Prif amcanion y cynllun yw:•Datblygu agwedd gadarnhaol ysgol-gyfan tuag at fwyd a maeth a sicrhau bod bwyta’n iach yn cael ei hyrwyddo•Datblygu’r ysgol fel man gwaith sy’n hyrwyddo iechyd cymdeithasol, corfforol ac emosiynol pob aelod o staff•Atgyfnerthu hunan werth a hyrwyddo iechyd meddwl yr holl ddisgyblion•Dangos ymrwymiad i wella amgylchedd yr ysgol, er hyrwyddo iechyd a lles holl gymuned yr ysgol•Sicrhau cynlluniau tymor hir sy’n rhoi cyfle i bob disgybl gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn gyson•Sicrhau bod yr ysgol gyfan yn amgylchedd di-fwg, sy’n pwysleisio manteision peidio ysmygu•Sicrhau fod gan yr ysgol Bolisi Atal Cyffuriau a gefnogir gan raglen addysg a gynlluniwyd ar gyffuriau ac alcohol•Dangos ymrwymiad i Addysg Rhyw a Pherthnasoedd trwy feddu ar Bolisi a rhaglen addysg a gynlluniwyd•Sicrhau bod yr ysgol yn ystyried diogelwch yn flaenoriaeth gan weithredu’n rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol.Dolenni defnyddiol:•Schoolbeat•Change4life•Golchi dwylo•EBug